Wylfa Newydd Nuclear Power Station

The views expressed in this page do not represent those of the Planning Inspectorate. This page consists of content submitted to the Planning Inspectorate by the public and other interested parties, giving their views of this proposal.

Wylfa Newydd Nuclear Power Station

Received 13 August 2018
From Fforwm Iaith Strategol Ynys Mon

Representation

Mae’r sylwadau isod yn cael eu cyflwyno ar ran Fforwm Strategol Iaith Ynys Môn. Mae’r Fforwm yn bartneriaeth sy’n bodoli ar lefel sirol er mwyn rhoi ffocws strategol i’r Gymraeg ar yr Ynys. Y Fforwm sy’n gyfrifol am adnabod blaenoriaethau a llunio Strategaeth Iaith Gymraeg 2016 – 2021, (http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/q/b/n/Strategaeth-Iaith-Gymraeg-2016-2021.pdf) a thrwy hynny, adwaenwn fod i’r Gymraeg bwysigrwydd sylfaenol i fywyd Ynys Môn.

Mae aelodaeth y Fforwm yn cynnwys Cadeirydd Annibynnol, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn, Cymdeithas yr Iaith, Cyngor Sir Ynys Môn, Ffermwyr Ifanc, Gr?p Llandrillo Menai, Gwe, Heddlu Gogledd Cymru, Medrwn Môn, Menter Iaith Môn, Menter Môn, Môn CF, Mudiad Meithrin, Prifysgol Bangor, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (Gwynedd a Môn), Unllais Cymru, Llys Eisteddfod Môn, Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, Yr Urdd.

Blaenoriaeth y Fforwm yw bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi tuag at y Gymraeg ym mhob agwedd o’r gwaith, erys pryder nad yw’r datblygwr yn cydnabod effaith y datblygiad mewn graddfa a chanrannau fyddai’n datgelu pa mor agos i’r newid andwyol (‘tipping point’) yr ydym ym Môn.
• ¬Yn fras gall 9000 o weithwyr ar ynys o 70,000 boblogaeth ble mae 57% yn siarad Cymraeg olygu 10% yn fwy o siaradwyr di-Gymraeg gan wneud y Gymraeg yn iaith leiafrifol. Mae cymuned gyda llai na 70% o siaradwyr Cymraeg yn galw am weithdrefnau i gynnal yr iaith, a dyma, gydag adnoddau prin iawn, yw rôl partneriaid y Fforwm.
• Mae diffyg manylion, geiriau amwys, diffyg ymroddiad pendant o ran rhaglen, buddsoddiad rhagflaen, a threfn monitro wrthrychol yn ei gwneud yn anodd ymateb yn llawn ar y pwynt yma.
• Mae angen i’r Asesiad Effaith adlewyrchu polisïau cyfredol lleol a chenedlaethol e.e Cymraeg 2050, Deddf Llesiant, polisïau addysg CSYM, gwaith cynllunio a hyrwyddo iaith partneriaethau’r Fforwm.
• Yn eisiau hefyd yw’r data ar effaith y datblygiad ar siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun ymchwil defnydd a throsglwyddo iaith.
• Angen camau i sicrhau gall siaradwyr Cymraeg drafod eu gwaith yn y Gymraeg mewn meysydd arbenigol a chadernid i gynnwys Polisi Iaith.
• Angen ymroddiad a chamau penodol i wireddu cymhathu mewnfudwyr i’n cymunedau.
• Rhaid ymrwymo i amserlen o fuddsoddiad rhagflaen mewn hyfforddi athrawon arbenigol a darparwyr gofal plant all drochi yn y Gymraeg. Rhaid hefyd buddsoddi mewn lleoliadau a chynnal a chadw’r safleoedd trochi. Rhaid sefydlu’r egwyddor o fuddsoddi rhagflaen.

Mae’r Fforwm Strategol Iaith yn cysidro bod angen gwrandawiad ffurfiol i ystyried y materion pwysig hyn a buasai’r Fforwm yn awyddus iawn i gael cynrychiolaeth yn, a chwarae rhan yn y gwrandawiad. Efallai bydd gan y Fforwm bwyntiau penodol eraill o fanylder pellach y bydd eisiau ei godi trwy Sylwadau Ysgrifenedig dilynol maes o law.