Wylfa Newydd Nuclear Power Station

The views expressed in this page do not represent those of the Planning Inspectorate. This page consists of content submitted to the Planning Inspectorate by the public and other interested parties, giving their views of this proposal.

Wylfa Newydd Nuclear Power Station

Received 01 August 2018
From Mudiad Meithrin

Representation

Fe fydd y Mudiad Meithrin yn gwneud sylwadau mewn perthynas a'r iaith Gymraeg, y galw am ofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, a'r dilyniant i addysg Gymraeg.

Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg mwyaf yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant yn genedlaethol bob wythnos.
Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd eu hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol.