Wylfa Newydd Nuclear Power Station

The views expressed in this page do not represent those of the Planning Inspectorate. This page consists of content submitted to the Planning Inspectorate by the public and other interested parties, giving their views of this proposal.

Wylfa Newydd Nuclear Power Station

Received 30 July 2018
From Menter Iaith Mon

Representation

Ymatebwn fel y prif gorff cynllunio a hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym Môn. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni amcanion y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac ystyriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Hoffwn felly gofrestru fel parti a buddiant yn y cyd-destun hwn.
Gwelwn fanteision wedi eu hamlinellu, adnabyddiaeth o heriau pwysig a chamau lliniaru gwerth chweil, fodd bynnag mewn cyd-destun ieithyddol, erys pryder nad yw’r datblygwr yn cydnabod effaith y datblygiad mewn graddfa a chanrannau fyddai’n datgelu pa mor agos i’r newid andwyol (‘tipping point’) yr ydym ym Môn.
1.Yn fras gall 9000 o weithwyr ar ynys o 70,000 boblogaeth ble mae 57% yn siarad Cymraeg olygu 10% yn fwy o siaradwyr di-Gymraeg gan wneud y Gymraeg yn iaith leiafrifol. O ran datblygu ieithyddol mae cymuned gyda llai na 70% o siaradwyr Cymraeg yn galw am rhagweithio i gynnal yr iaith, a dyma, gydag adnoddau prin iawn, yw ein rol ni.
2.O ystyried y pryderon lleol am yr uchod, ni ystyriwn fod yr Asesiad Effaith a’r camau lliniaru yn cyfiawnhau casgliad y datblygwr: “O bwyso a mesur, mae effaith gyffredinol Prosiect DCO Wylfa Newydd ar y Gymraeg a’i diwylliant yn cael ei hystyried yn effaith niwtral.”
3.Yn ychwanegol mae, diffyg manylion, geiriau amwys, diffyg ymroddiad pendant o ran rhaglen, buddsoddiad rhagflaen, a threfn monitro wrthrychol yn ei gwneud yn anodd ymateb yn llawn.
4.Mae angen i’r Asesiad Effaith adlewyrchu polisïau cyfredol ee gwaelodlin: Yng nghyd-destun Cymraeg 2050, Deddf Llesiant, polisïau addysg CSYM, gwaith cynllunio a hyrwyddo iaith asiantaethau megis Menter Iaith Mon/Mudiad Meithrin/yr Urdd ayb, felly rhaid ystyried y potensial twf siaradwyr Cymraeg.
5. Yn eisiau hefyd yw’r data ar effaith y datblygiad ar siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun ymchwil defnydd a throsglwyddo iaith.
6. Yn benodol am y mesurau lliniaru nodwn:
• Gweithle ee 1-5, 6, 8. Angen camau i sicrhau gall siaradwyr Cymraeg drafod eu gwaith yn y Gymraeg mewn maes arbenigol gan gynnwys cyfieithiadau o ddogfennau technegol i’r Gymraeg, cadernid i gynnwys Polisi Iaith, data / mesurau i leddfu pryder lleol am golli staff Cymraeg ac allfudo siaradwyr Cymraeg wedi cyfnod o waith byrdymor.
• Ymwybyddiaeth ee 12, 18, 20. Angen diffiniad o hyfforddiant ag ymwybyddiaeth, pa mor systematig, hefyd pa gamau penodol i wireddu ‘mewnfudwyr i ddod yn rhan o’r gymuned’ gyda goblygiadau hyn ar fuddsoddi mewn gwersi Cymraeg, cefnogaeth gymunedol a chyfieithu cymunedol ehangach.
• Addysg ac oed cyn-ysgol ee 13, 16, 19. Nid yw’r data yn dangos y diffyg capasiti ar hyn o bryd i gyflawni’r nod. Mae’r drefn gynllunio yn wallus a g?yr y datblygwyr hyn o’r adborth yn y Gr?p Llywio a’r Fforwm Iaith. Nid yw’n ddigonol i gynnig adnoddau ar ôl ymddangosiad y disgyblion. Rhaid ymrwymo i amserlen o fuddsoddiad rhagflaen mewn hyfforddi athrawon arbenigol a darparwyr gofal plant all drochi yn y Gymraeg. Rhaid hefyd buddsoddi mewn lleoliadau a chynnal a chadw’r safleoedd trochi heb ddisgwyl i CSYM sybsideiddio hyn ar ran y datblygwyr. Rhaid sefydlu’r egwyddor o fuddsoddi rhagflaen er mwyn cynllunio ieithyddol.
• Monitro